Math | gorsaf reilffordd, industrial archaeology site |
---|---|
Agoriad swyddogol | 8 Mai 1842 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Manchester station group |
Sir | Dinas Manceinion |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.477°N 2.23°W |
Cod OS | SJ847978, SJ848978 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 14 |
Nifer y teithwyr | 25,973,000, 27,807,000, 27,725,000, 30,133,000, 32,199,000 |
Côd yr orsaf | MAN |
Rheolir gan | Network Rail |
Perchnogaeth | Network Rail |
Mae gorsaf reilffordd Piccadilly Manceinion (Saesneg: Manchester Piccadilly) yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu ddinas Manceinion, Lloegr. Mae'n gwasanaethu llwybrau intercity i Lundain, Birmingham, De Cymru, arfordir de Lloegr, Caeredin a Glasgow, a llwybrau ar draws gogledd Lloegr. Mae yna hefyd dau blatfform sy'n gwasanaethu'r Metrolink. Mae Piccadilly yn un o 18 o orsafoedd rheilffordd Brydeinig sydd wedi ei rheoli gan Network Rail.
Piccadilly yw'r orsaf brysuraf ym Manceinion cyn gorsafoedd Victoria, Deansgate, Salford Canolog a Oxford Road. Hwn yw'r orsaf pedwerydd brysuraf yn y Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain, ar ôl New Street Birmingham, Glasgow Canolog a Leeds. Yn ôl Network Rail, mae dros 28,500,000 o bobl yn defnyddio'r orsaf bob blwyddyn.
Yn 2002 derbynodd yr orsaf werth £100m o waith adnewyddu dros gyfnod o bum mlynedd, y gwelliant mwyaf drud ar y rhwydwaith rheilffyrdd y Deyrnas Unedig ar y pryd. Yn ôl arolwg barn annibynnol a gynhaliwyd yn 2007, Piccadilly sydd â'r lefel uchaf bodlonrwydd cwsmeriaid o unrhyw orsaf y DU, gyda 92% o deithwyr yn fodlon gyda'r orsaf, y cyfartaledd cenedlaethol oedd 60%.